Transport For Wales

Pontypridd
Transport

At TfW we’re creating a public transport network that will have a positive, long-term impact on Wales’ prosperity.  What we do impacts people, businesses and communities throughout Wales. As a TfW graduate, while your career’s getting off to a flying start you’ll also be part of a team and using your skills to help us deliver a wide range of key projects - projects that will shape Wales’ future transport network. So, while you’re learning new skills, growing your expertise and gaining some great experience, you’ll also be able see the impact of what you’re doing every day. Equality, diversity and inclusion is core to our culture and we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve to help us achieve more for the people, businesses and communities of Wales.

We’ll also give you the tools you need to succeed, from mentors to structured rotations and academic resources in addition to a great rewards and benefits package.

So, not only will you gain some great exposure, you’ll have a fully integrated learning experience, support to gain professional status in your chosen field in addition to a good starting salary, 28 days’ holiday, gym-membership and retail discounts.

Join us and help to build a united, connected and sustainable Wales and drive forward the Welsh Government’s vision of a high-quality, safe, integrated, affordable, and accessible transport network that the people of Wales are proud of.

Click to see our full benefits package.

Yn Trafnidiaeth Cymru, rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus a fydd yn cael effaith gadarnhaol a hirdymor ar ffyniant Cymru. Mae'r hyn rydym yn ei wneud yn effeithio ar bobl, busnesau a chymunedau ledled Cymru. Fel un o raddedigion Trafnidiaeth Cymru, tra bydd eich gyrfa yn cael dechreuad gwych, byddwch hefyd yn rhan o dîm ac yn defnyddio eich sgiliau i'n helpu i gyflawni amrywiaeth eang o brosiectau allweddol – prosiectau a fydd yn llywio rhwydwaith trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol. Felly, tra byddwch yn dysgu sgiliau newydd, yn tyfu eich arbenigedd ac yn ennill profiad gwych, byddwch hefyd yn gallu gweld effaith yr hyn rydych yn ei wneud pob dydd. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth wraidd ein diwylliant ac rydym yn meithrin tîm amrywiol sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu er mwyn ein helpu i gyflawni mwy ar gyfer pobl, busnesau a chymunedau Cymru.

Byddwn hefyd yn rhoi'r adnoddau i chi sydd eu hangen arnoch i lwyddo, gan gynnwys mentoriaid, lleoliadau strwythuredig ac adnoddau academaidd yn ogystal â phecyn buddiannau gwych.

Felly, nid yn unig y byddwch yn creu llawer o gysylltiadau, byddwch hefyd yn cael profiad dysgu integredig, cefnogaeth i ennill statws proffesiynol yn eich dewis faes yn ogystal â chyflog dechreuol da, 28 diwrnod o wyliau, aelodaeth campfa a gostyngiadau manwerthu.

Ymunwch â ni a helpwch i feithrin Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy sy'n datblygu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o gael rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, cynaliadwy, fforddiadwy ac o ansawdd uchel.

Gweler ein pecyn buddiannau llawn yma.