(NHS Wales: Your Welsh, Your Career) – NHS Internship
Health Education &Improvement Wales (HEIW) are offering an exciting opportunity to support both the Future Workforce and Welsh Language Teams at HEIW. This internship will help promote the wide range of careers available in NHS Wales to people of all ages and career stages, with a focus on increasing the use of the Welsh language across the service.
Do you want to make a real difference to the careers of young people in Wales? Are you passionate about promoting the Welsh language within the NHS?
How to Apply:
Essential Information
Place of work – HEIW, Ty Dysgu, Nantgarw, CF14 7QQ – Hybrid working (2days office, 3 days home)
Hours per week – Full Time - 37.5hours per week
Duration/total hours – 8-week opportunity between 07.07.25 – 29.08.25.
Hourly rate - £12.26
Travel expenses – travel for meetings if required will be reimbursed
Fixed start and end dates are: 07.07.25 – 29.08.25
Closing date: 21.04.2025 – Please note that we reserve the right to close this opportunity early if sufficient applications are received
Please note it is your responsibility to be aware of your own visa conditions.
An overview of the internship programme can be viewed here: https://nhswalesleadershipportal.heiw.wales/internship-programme
GIG Cymru: Eich Cymraeg, Eich Gyrfa - Interniaeth AaGIC
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn cynnig cyfle cyffrous i gefnogi Gweithlu'r Dyfodol a Thimau Iaith Gymraeg AaGIC. Bydd yr interniaeth hon yn helpu i hyrwyddo’r ystod eang o yrfaoedd sydd ar gael yn GIG Cymru i bobl o bob oed a chyfnod gyrfa, gyda ffocws ar gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y gwasanaeth.
Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i yrfaoedd pobl ifanc yng Nghymru? Ydych chi'n frwd dros hyrwyddo'r Gymraeg o fewn y GIG?
Sut i wneud cais:
• I gael rhagor o wybodaeth a dolen i wneud cais, anfonwch e-bost at: HEIW.InternshipProgramme@wales.nhs.uk
• Ceisiadau’n cau: 21 Ebrill 2025
· Cyfweliadau: Cynhelir yn rhithwir trwy MS Teams ym mis Mai (yr union ddyddiadau i'w cadarnhau)
Gwybodaeth Hanfodol
Lleoliad gwaith – AaGIC, Tŷ Dysgu, Nantgarw, CF14 7QQ – Gwaith hybrid (2 ddiwrnod yn y swyddfa, 3 diwrnod gartref)
Oriau'r wythnos - Llawn Amser - 37.5 awr yr wythnos
Hyd/cyfanswm oriau – cyfle 8 wythnos rhwng 07.07.25 – 29.08.25.
Cyfradd yr awr - £12.26
Costau teithio – ad-delir costau teithio ar gyfer cyfarfodydd os oes angen
Y dyddiadau cychwyn a gorffen sefydlog yw: 07.07.25 – 29.08.25
Dyddiad cau: 21.04.2025 – Sylwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r cyfle hwn yn gynnar os derbynnir digon o geisiadau
Sylwch mai eich cyfrifoldeb chi yw bod yn ymwybodol o amodau eich fisa eich hun.
Gellir gweld trosolwg o'r rhaglen interniaeth yma: HEIW Internship Programme - Porth Arweinyddiaeth AaGIG