Role: Local Area Energy Plan (LAEP) Project Officer
Salary: £35,235 - £39,513 (fixed term contract until March 2026)
About the Organisation:
As a long-term endeavour, the Cardiff Capital Region City Deal (CCR) is built on a functional economic geography, covering the ten Local Authorities of South-East Wales, that is constantly adapting to tackle the big industrial, public policy and societal challenges of the day.
Our newly revised Economic and Industrial Growth Plan prioritises a number of sectors and activities that can best help the region demonstrate sustainable and inclusive growth over the long-term. The evolution of the region from a single programme City Deal to a multi-partner, multi-programme corporate legal entity, the South-East Wales Corporate Joint Committee (SEWCJC), offers significant opportunities for a new, more effective, and ambitious type of regional public investment.
Entering a second UK Government Gateway Review with the emphasis on ongoing self-evaluation, impact delivery and long-term benefits realisation, the CCR is currently integrating a range of extant regional growth programmes such as its £1.2Bn City Deal and a new £160M Investment Zone.
CCR takes pride in its people – employing the right people in the right roles to maximise our positive impact on businesses and communities across South-East Wales.
Our ambitions of shared prosperity, increasing productivity, and developing a greener and fairer economy underpins our central vision of inclusive growth – ensuring every community within the ten local authorities of our Region has access to opportunity and can reach their potential.
Everyone at CCR has a role in fulfilling these ambitions. By joining our organisation, you are contributing to our mission of creating a competitive, connected, and resilient Region through the delivery of strategic interventions that nurture social and economic well-being throughout South-East Wales.
About the Job:
The Local Area Energy Plan (LAEP) Project Officer Role will play a key role in:
· Supporting the Programme Manager in developing and delivery the Local Area Energy Plans, Regional Energy Strategic Plan and CCR’s Regional Energy Strategy.
· Delivering assigned projects within a wider programme environment, working in partnership to ensure energy projects are delivered on time and realise their desired outcomes.
· Transforming local energy systems to help enable decarbonisation across the region.
This critical role has a major impact on delivery within CCR as a region and as an organisation. The function works across the region and the organisation to ensure successful short-, medium- and long-term projects are developed in line with strategy and delivered successfully to achieve ambitious decarbonisation targets.
The role will support the implementation of a local and regional progress management and monitoring framework, working within identified budgets and timeframes whilst being pivotal in identifying new opportunities in the energy and net zero spaces.
What we are looking for from you:
We are seeking an experienced and dynamic Project Officer to support the delivery and evolution of the Energy agenda at Cardiff Capital Region. In this pivotal role, you will work closely with a wide range of stakeholders, ensuring a wide range of critical projects are delivered on time and to budget.
You will bring with you experience in supporting a wide range of projects, including managing and reporting risks, reporting progress and delivery of outputs and outcomes and the ability to work closely with the supporting functions within CCR.
The role is a fantastic opportunity to contribute to the delivery of ambitious decarbonisation targets across the region. You will have a good understanding of the relevant legislation surrounding energy and sustainability, a willingness to engage with new ideas and look for solutions and innovative ways to make them work, underpinned by a personal passion for creating positive impact for those who live and work in the region.
Rôl: Swyddog Prosiect Cynllun Ynni Ardal Leol (LAEP)
Cyflog: £35,235 - £39,513 (Cyfnod Penodol hyd at Fis Mawrth 2026)
Ynglŷn â'r sefydliad:
Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) yn ymdrech hirdymor sydd wedi'i hadeiladu ar ddaearyddiaeth economaidd weithredol, sy'n cwmpasu deg awdurdod lleol yn Ne-ddwyrain Cymru ac sy'n addasu'n gyson i fynd i'r afael â heriau mawr sy’n ymwneud â materion diwydiannol, polisi cyhoeddus a chymdeithasol presennol.
Mae ein Cynllun Twf Economaidd a Diwydiannol, sydd wedi’i ddiwygio’n ddiweddar, yn blaenoriaethu nifer o sectorau a gweithgareddau a all helpu'r rhanbarth i sicrhau twf cynaliadwy a chynhwysol dros gyfnod hir. Mae esblygiad y rhanbarth o un rhaglen Bargen Ddinesig i endid cyfreithiol corfforaethol aml-bartner, aml-raglen, sef Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain Cymru (SEWCJC), yn cynnig cyfleoedd sylweddol ar gyfer math newydd, mwy effeithiol ac uchelgeisiol o fuddsoddi cyhoeddus rhanbarthol.
Mae Prifddinas Ranbarth Caerdydd, sydd ar fin cychwyn ail Adolygiad Porth Llywodraeth y DU gyda phwyslais ar hunanwerthuso, cyflawni effaith a gwireddu buddion hirdymor, ar hyn o bryd yn integreiddio ystod o raglenni twf rhanbarthol megis ei Bargen Ddinesig gwerth £1.2 biliwn a’r Parth Buddsoddi newydd gwerth £160 miliwn.
Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ymfalchïo yn ei phobl – gan gyflogi'r bobl iawn yn y rolau cywir er mwyn manteisio i’r eithaf ar yr effaith gadarnhaol y mae’n ei chael ar fusnesau a chymunedau ledled De-ddwyrain Cymru.
Mae ein huchelgeisiau o ffyniant cyffredin, gwella cynhyrchiant, a datblygu economi wyrddach a thecach yn sail i'n gweledigaeth ganolog o dwf cynhwysol – gan sicrhau bod pob cymuned yn y deg awdurdod lleol sy’n rhan o’n Rhanbarth yn cael mynediad at gyfleoedd ac yn gallu gwireddu eu potensial.
Mae gan bawb sy’n rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd rôl a fydd yn cyfrannu at gyflawni'r uchelgeisiau yma. Trwy ymuno â'n sefydliad, rydych chi'n cyfrannu at ein cenhadaeth o greu Rhanbarth gystadleuol, cysylltiedig a chydnerth trwy ddarparu ymyraethau strategol sy'n meithrin lles cymdeithasol ac economaidd ledled De-ddwyrain Cymru.
Gwybodaeth am y swydd:
Bydd y Swyddog Prosiect Cynllun Ynni Ardal Leol yn chwarae rôl allweddol wrth:
· Cefnogi Rheolwr y Prosiect i ddatblygu a chyflawni'r Cynlluniau Ynni Ardal Leol, Cynllun Strategol Ynni Rhanbarthol a'r Strategaeth Ynni Rhanbarthol Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
· Cyflawni prosiectau o fewn amgylchedd ehangach o raglenni, gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod prosiectau ynni'n cael eu cyflawni ar amser ac mae deilliannau'r prosiect yn cael eu gwireddu.
· Trawsnewid y system ynni leol er mwyn bod o gymorth i'r strategaeth datgarboneiddio ledled y rhanbarth.
Mae'r rôl allweddol yma'n cael effaith sylweddol ar gyflawniad y Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fel rhanbarth ac fel sefydliad. Mae'r weithred yma ar waith ar draws y rhanbarth a'r sefydliad er mwyn sicrhau bod prosiectau tymor byr, canolig a hir yn cael eu datblygu yn unol â'r strategaeth. Mae'n sicrhau bod y prosiectau'n cael eu cyflawni yn llwyddiannus er mwyn profi llwyddiant yn erbyn targedau datgarboneiddio uchelgeisiol.
Bydd y rôl yma'n cefnogi gwaith rheoli cynnydd yn lleol ac yn rhanbarthol a monitro fframwaith, gan weithio â chyllidebau a therfynnau amser. Bydd hefyd rhaid cydnabod cyfleoedd newydd yn y meysydd ynni a sero-net/
Yr hyn rydyn ni'n chwilio amdano:
Rydyn ni'n chwilio am Swyddog Prosiect profiadol i gefnogi yn y gwaith o gyflawni a datblygu'r agenda ynni ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Yn y rôl ganolog yma, byddwch chi'n gweithio'n agos gydag ystod eang o randdeiliaid, gan sicrhau bod prosiectau allweddol yn cael eu cyflawni ar amser ac o fewn y gyllideb.
Byddwch chi'n defnyddio eich profiad i gefnogi ystod eang o brosiectau, yn cynnwys rheoli ac adrodd risgiau, adrodd ar gynnydd ac ar gyflawni deilliannau. Bydd gyda chi'r gallu i weithio'n agos gyda'r gweithrediad cefnogol o fewn y Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Dyma gyfle arbennig i chwarae rhan i wireddu targedau datgarboneiddio uchelgeisiol ledled y rhanbarth. Bydd gyda chi ddealltwriaeth dda o'r ddeddfwriaeth berthnasol sy'n ymwneud ag ynni a chynaliadwyedd, parodrwydd i wrando ar ac ymateb i syniadau newydd a'r gallu i chwilio am ddatrysiadau arloesol. Bydd gyda chi angerdd i greu effaith bositif i'r rheiny sy'n byw a gweithio yn y rhanbarth.