Back to Jobs

Ymchwilydd

Yn ddibynnol ar brofiad
Llanelli
Permanent 

Mae swydd ymchwilydd yn gam cyntaf o fewn y diwydiant teledu. Dyma swydd sy’n gyflwyniad i’r broses gynhyrchu ac yn sylfaen dda ar gyfer unrhyw un sydd a’r uchelgais i fynd ymhellach.


Fel aelod o dîm o ymchwilwyr, fe fyddwch yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau i ddod o hyd i eitemau, stwdio a rhai i’w ffilmio ar leoliad, ar gyfer Prynhawn Da a Heno. Yn dilyn cymeradwyaeth gan y Tîm Cynhyrchu, fe fyddwch yn gyfrifol am drefnu lleoliad, cyfranwyr, criw ffilmio a llunio nodiadau ar gyfer y cyflwynydd/gohebydd ynghyd ag unrhyw fater arall sydd angen ei drefnu. Yn dilyn hyfforddiant, fe fyddwch yn llunio drafft cyntaf o asesiad risg ar gyfer unrhyw ffilmio.


Mae Prynhawn Da a Heno yn rhaglenni byw dyddiol, felly byddwch yn gweithio dan bwysedd amser yn aml er mwyn sicrhau fod eitemau’n cyrraedd y sgrin mewn pryd. Mae Heno yn darlledu’n fyw o 7:00yh tan 7:30yh ac mae disgwyl i un ymchwilydd weithio tan ddiwedd y darllediad bob nos. Ar adegau gall eitemau hwyr olygu fod angen gweithio hyd at amser darlledu’r rhaglen.


Fel rhan o’ch gwaith fe fyddwch yn cynorthwyo ar lawr y stwdio, trefnu/prynu defnyddiau ar gyfer eitemau stwdio, cynorthwyo gyda pheiriant Autocue yn ystod ymarfer a darlledu neu, gyda chriw camera, yn holi barn pobl ar y stryd.


Mae Tinopolis hefyd yn cynhyrchu nifer o raglenni eraill (Pawb a’i Farn, Sgwrs dan y lloer, Carol yr ŵyl ac
yn y blaen) ac o dro i dro fe fyddwch hefyd yn gweithio ar y rhaglenni hyn.

Lleoliad: Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli SA15 3YE

Cyflog: yn ddibynnol ar brofiad

Dyddiad Cau: 7fed o Fawrth 2025

Manylion pellach

Oriau Gwaith: Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos ond oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys, penwythnosau a gwyliau banc.

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn, bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau: Dylid anfon ceisiadau mewn ffurf llythyr cais a CV erbyn 7fed o Fawrth 2025, at Swyddi@tinopolis.com neu Swyddi, Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, SA15 3YE.

Yn unol â gofynion Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU. Bydd yn ofynnol cael tystolaeth ddogfennol o gymhwyster gan ymgeiswyr fel rhan o’r broses recriwtio.


Gwybodaeth bersonol a gasglwn amdanoch chi pan fyddwch yn ymgeisio am swydd yn Tinopolis:Wrth wneud cais am swydd, bydd disgwyl i chi ddarparu CV fel rhan o’r broses. Byddwn yn cadw copi o’ch CV ar ffeil am gyfnod o dair blynedd. Pe bai swydd debyg yn codi yn y cyfnod hwn, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth er mwyn cysylltu â chi. Gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol o’n ffeiliau ar unrhyw adeg. Am ragor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, gweler
https://tinopolis.com/privacy-notice/

Tinopolis
Apply nowApply nowShare
Welsh essential
Ready to apply for this opening?

Please let the organisation know that you found this position on this Job Board as a way to support us.

Apply nowApply now