Q5 is an international award-winning consulting firm that specialises in organisational change. Q5ers help business leaders develop organisational strategy then implement it – through more effective processes, capabilities and structures – and then develop their people, through individual and team leadership development.
The firm's core purpose is to provide excellent organisational health to business leaders around the world. We care passionately about this. Deep experience across a wide range of sectors, and the talent of our people (along with our award-winning Metro Map organisational design process) allows us to draw on diverse expertise to provide our clients with different perspectives on their challenges.
We are excited to launch our new Q5 Wales office, opening in Cardiff in Summer 2021. We have thoroughly enjoyed supporting our Welsh partners and clients over the past decade and we look forward to formally opening our new home in Cardiff. Over the years, we have delivered large scale organisational transformation and change projects with leading businesses and organisations in Wales. Our work has spanned across a variety of sectors and industries, including financial services, healthcare, and utilities. A recent example of our work in Wales is proudly supporting the NHS’ COVID-19 response through contributing to the build of the Dragon’s Heart Hospital/Ysbyty Calon y Ddraig, the UK’s second largest surge hospital.
As we grow our Welsh business, we are keen to connect with graduates who are interested in living and working in Wales and who share our passion for organisational change. If you are currently studying at university or have recently graduated, our internships provide you with a comprehensive introduction to consulting. You’ll spend around eight weeks working on one or more of our projects, obtaining a thorough understanding of how Q5 works.
Founded in 2009, during the financial crisis, Q5 has offices in the UK (London, Leeds, & Cardiff), the US (New York), Australia (Sydney, Melbourne), Hong Kong, the Middle East (Riyadh), and joint ventures in France, Germany, Italy, and Sweden. The firm was awarded a Queens Award in 2019, and is a Sunday Times Best Company (2020) and one of the FT’s Leading UK Consultancies (2021), feted for its organisation design and change management capabilities.
The firm operates a pro bono service for charities and not-for-profits, called Pop Up Consulting, which has a dedicate team and serves 60 organisations per annum.
Recent publications include: Connective Organisations – how to thrive in the 2020s (published in 2019) and Magic Sponge (2021), a book on leadership, available on Amazon.
Mae Q5 yn gwmni ymgynghori arobryn rhyngwladol sy'n arbenigo mewn newid sefydliadol. Mae Q5iaid yn helpu arweinwyr busnes i ddatblygu strategaeth sefydliadol ac yna ei gweithredu - trwy brosesau, medrau a strwythurai mwy effeithiol – ac wedyn ‘tyfu’ eu pobl trwy ddatblygu arweinyddiaeth ar lefel unigol a thîm.
Nod craidd y cwmni yw darparu iechyd sefydliadol rhagorol i arweinwyr busnes ledled y byd. Rydym yn teimlo'n angerddol am hyn. Mae profiad dwfn ar draws ystod eang o sectorau, a thalent ein pobl (ynghyd â'n proses ddylunio sefydliadol Metro Map arobryn) yn caniatáu inni dynnu ar arbenigedd amrywiol i ddarparu gwahanol safbwyntiau i'n cleientiaid ar eu heriau.
Rydym yn gyffrous wrth lansio ein swyddfa Q5 Cymru newydd, a fydd yn agor yng Nghaerdydd yn Haf 2021. Rydym wedi mwynhau cefnogi ein partneriaid a'n cleientiaid yng Nghymru dros y degawd diwethaf ac edrychwn ymlaen at agor ein cartref newydd yn ffurfiol yng Nghaerdydd. Dros y blynyddoedd, rydym wedi cyflawni prosiectau trawsnewid a newid sefydliadol ar raddfa fawr gyda busnesau a sefydliadau blaenllaw yng Nghymru. Mae ein gwaith wedi rhychwantu amrywiaeth o sectorau a diwydiannau, gan gynnwys gwasanaethau ariannol, gofal iechyd a chyfleustodau. Enghraifft ddiweddar o’n gwaith yng Nghymru rydym yn falch ohono yw cefnogi ymateb COVID-19 y GIG trwy gyfrannu at adeiladu Dragon’s Heart Hospital/Ysbyty Calon y Ddraig, sef ysbyty ymchwydd ail fwyaf y DU.
Wrth i ni dyfu ein busnes yng Nghymru, rydym yn awyddus i gysylltu â graddedigion sydd â diddordeb mewn byw a gweithio yng Nghymru ac sy'n rhannu ein hangerdd dros newid sefydliadol. Os ydych chi'n astudio yn y brifysgol ar hyn o bryd neu wedi graddio yn ddiweddar, bydd ein hinterniaethau yn rhoi cyflwyniad cynhwysfawr i ymgynghori i chi. Byddwch yn treulio tua wyth wythnos yn gweithio ar un neu fwy o'n prosiectau, gan ennill dealltwriaeth drylwyr o sut mae Q5 yn gweithio.
Wedi ei sefydlu yn 2009, yn ystod yr argyfwng ariannol, mae gan Q5 swyddfeydd yn y DU (Llundain, Leeds, a Chaerdydd), yr UD (Efrog Newydd), Awstralia (Sydney, Melbourne), Hong Kong, y Dwyrain Canol (Riyadh), a chyd-fentrau yn Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal a Sweden. Dyfarnwyd Queens Award i’r cwmni yn 2019, ac mae’n Sunday Times Best Company (2020) ac yn un o Leading UK Consultancies yr FT (2021), ar sail ei ddyluniad sefydliadol a’i fedrau rheoli newid.
Mae'r cwmni'n gweithredu gwasanaeth pro bono ar gyfer elusennau a chwmnïau dielw, o'r enw Pop Up Consulting, sydd â thîm ymroddedig sy'n gwasanaethu 60 o sefydliadau bob blwyddyn.
Ymhlith ei gyhoeddiadau diweddar mae: Connective Organisations – how to thrive in the 2020s (cyhoeddwyd yn 2019) a Magic Sponge (2021), llyfr ar arweinyddiaeth, sydd ar gael ar Amazon.