Ship Shape

Cardiff & Swansea
Fintech / Data Science

70% of all UK Venture Capital funding goes to London and the South East. This isn’t where 70% of the best ideas are. We want to empower start-ups to access funding and accelerate start-ups across the UK.

Finding the right Venture Capital investors today is like getting into a taxi that doesn’t have Satnav. Today’s tools will tell you an area code at best (e.g. Venture Capital firm that invests in ‘Fintech’); we at Ship Shape are building that Satnav.

Incorporated during the pandemic, Ship Shape is uniquely positioned as an adaptive, fast-moving and exciting start-up work environment presenting the opportunity to collaborate with multiple cultures and working styles into a harmonious workflow, while acknowledging individuals’ needs and motivation.

As a start-up, the level of exposure to all areas of business is unmatched at Ship Shape. You can be involved in communication and feedback outside of your role and speciality which facilitates personal growth. This ranges from marketing, sales and product development, to data coordination, data science and operations. This is driven by the trusting and open communication at Ship Shape whereby everyone wishes to achieve the same goal.

Ship Shape is currently involved with a number of universities and recently started an integrated graduate program that allows soon-to-be graduates to tackle real-life challenges to prepare themselves for professional industries.
At Ship Shape, we are proud to acknowledge the diverse talent and age that has formed unique bonds and connections and we would be delighted to speak with those keen to jump on-board.

Mae 70% o holl gyllid Cyfalaf Menter y DU yn mynd i Lundain a'r De Ddwyrain. Nid dyma lle mae 70% o'r syniadau gorau. Rydym am alluogi busnesau newydd i gael gafael ar gyllid a chyflymu busnesau newydd ledled y DU.

Mae dod o hyd i'r buddsoddwyr Cyfalaf Menter cywir heddiw fel mynd i mewn i dacsi sydd heb Satnav. Mae offer heddiw yn rhoi côd ardal ichi ar y gorau (e.e. cwmni Cyfalaf Menter sy’n buddsoddi mewn ‘Fintech’); rydym ni yn Ship Shape yn adeiladu’r Satnav hwnnw.

Wedi'i sefydlu yn ystod y pandemig, mae Ship Shape mewn sefyllfa unigryw fel busnes newydd a chanddo amgylchedd gwaith ymaddasol, cyflym a chyffrous sy'n rhoi'r cyfle i gydweithio â diwylliannau ac arddulliau gwaith gwahanol mewn llif gwaith cytunus, gan gydnabod anghenion a chymhelliant unigolion.

Fel busnes newydd, mae lefel yr agoriadau i bob maes busnes heb ei hail yn Ship Shape. Gallwch fod yn rhan o gyfathrebu ac adborth y tu allan i'ch rôl a'ch arbenigedd eich hunan, sy'n hyrwyddo datblygiad personol. Mae hyn yn amrywio o farchnata, gwerthu a datblygu cynnyrch, i gydlynu data, gwyddoniaeth data a gweithrediadau. Mae hyn yn cael ei yrru gan y cyfathrebu ymddiriedus ac agored yn Ship Shape, lle mae pawb yn cyrchu at yr un nod.

Ar hyn o bryd mae Ship Shape yn ymwneud â nifer o brifysgolion ac yn ddiweddar rydym wedi cychwyn raglen integredig i raddedigion sy'n caniatáu i ddarpar-raddedigion fynd i'r afael â heriau bywyd go iawn fydd  yn eu paratoi ar gyfer diwydiannau proffesiynol. Yn Ship Shape, rydym yn falch i gydnabod y dalent a'r oedran amrywiol sydd wedi ffurfio clymau a chysylltiadau unigryw, a byddem yn falch iawn i siarad â'r rhai hynny sy'n awyddus i neidio ar fwrdd ein llong.