Pan fyddwch yn meddwl am y Gymraeg, beth sy’n dod i’ch meddwl? Efallai eich bod yn meddwl am Gymru, neu fro eich mebyd. Efallai eich bod yn meddwl am eich cartref, neu eich teulu a ffrindiau sy’n rhannu’r iaith honno â chi. Efallai mai hanes yr iaith, a’i phobl, sy’n dod i’r meddwl, neu ddiwylliant a llenyddiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Ond, a ydych chi’n meddwl am y Gymraeg fel cymhwyster a sgil defnyddiol ar gyfer byd gwaith?
Fe ddylech! Mae bod yn ddwyieithog (neu’n amlieithog!) yn gymhwyster arbennig bob amser, a bydd cyflogwyr yn gwerthfawrogi unrhyw iaith yr ydych yn gallu ei defnyddio. Ond wrth siarad â chyflogwyr yng Nghymru, mae nifer ohonynt wedi dweud wrthym eu bod yn chwilio’n benodol am siaradwyr Cymraeg.
Dyma 5 rheswm pam mae siarad Cymraeg o fantais i chi yn y gweithle:
1. Mae’r Gymraeg yn agor drysau fyddai ar gau i chi hebddi – Mae nifer o swyddi ar gyfer graddedigion yn gofyn yn benodol am y Gymraeg cyn ichi wneud cais. Mae’r rhain yn cynnwys swyddi da, amlwg, fel bod yn gyfieithydd neu’n athro cyfrwng Cymraeg, ond yn ogystal mae llawer o swyddi da eraill, llai amlwg, yn gofyn am siaradwyr Cymraeg. Bellach, mae nifer o sefydliadau yn chwilio am rai sy’n siarad Cymraeg, ac mae hyn wedi bod yn gynyddol wir ers pasio Deddf Iaith 1993, a wnaeth y Gymraeg yn iaith swyddogol ac yn gyfartal â’r Saesneg yng Nghymru.
2. Mae’r Gymraeg yn gymhwyster ychwanegol ar gyfer nifer dda o swyddi – Yn ogystal â’r swyddi hynny ble mae’n angenrheidiol ichi fedru’r Gymraeg, i lawer o swyddi eraill mae’n gymhwyster ychwanegol, manteisiol. Mae hyn yn enwedig yn wir am rai cwmnïoedd llai, sydd efallai yn chwilio am rywun sy’n gallu gweithredu mewn cyd-destunau amrywiol, neu i gwmnïoedd sy’n delio â llawer o gwsmeriaid neu chleientiaid sy’n siarad Cymraeg. Ond, i raddau, mae hyn yn wir am bron pob swydd achos, yn gyffredinol, mae cyflogwyr yn gweld medru’r Gymraeg yn ddefnyddiol, hyd yn oed os nad yw’n ‘angenrheidiol’.
3. Mae mwy o wybodaeth am Gymru ar gael i chi, a hynny er lles eich gwaith – Hyd at yn ddiweddar iawn, y Gymraeg oedd prif iaith cenedl y Cymry, ac unig iaith llawer iawn o’i phobl. Mae hyn yn golygu fod medru’r Gymraeg yn gymorth mawr i ddeall hanes, llenyddiaeth a diwylliant Cymru yn llawnach. Ond mae’r Gymraeg hefyd yn gymorth i ddeall y Gymru gyfoes. Mae’r Gymraeg yn parhau i gael ei defnyddio yn helaeth, ym myd gwaith ymchwil, y cyfryngau a newyddion, llenyddiaeth, cerddoriaeth, ac mewn llawer maes arall. Mewn geiriau eraill, mae pob math o wybodaeth ar gael yn y Gymraeg ac yn cael ei greu trwy’r Gymraeg bob dydd, ac mae hyn i gyd ar gael yn rhwydd i’r siaradwr Cymraeg, er budd eich gwaith a’ch sefydliad.
4. Gall y Gymraeg eich helpu i gyfathrebu’n fwy effeithiol â phobl – Fel yn achos pob iaith, gall siarad â rhywun yn Gymraeg eich helpu i greu cysylltiadau gwell â phobl eraill, trwy’r iaith maen nhw’n dymuno ei siarad. Os ydych chi’n gweithio i sefydliad neu gwmni, neu os ydych chi’n datblygu eich busnes eich hun, bydd hyn o fantais wrth i chi ddelio â chwsmeriaid a chleientiaid; byddant yn gwerthfawrogi eich bod yn defnyddio’r iaith sydd orau ganddynt.
5. Mae’n debygol iawn y bydd y Gymraeg yn bwysicach byth i fyd gwaith Cymru yn y dyfodol – Os yw’r Llywodraeth yn llwyddo i fwrw ei thargedau, erbyn 2050 fe fydd miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, sef tua thraean poblogaeth bresennol Cymru. Yn y sefyllfa honno, fe fydd medru siarad Cymraeg yn fwy defnyddiol byth, a bydd mwy o sefydliadau a chwmnïau yn chwilio am siaradwyr Cymraeg. Er bod 2050 yn swnio’n bell, fe fydd y rhan fwyaf o raddedigion diweddar yn dal i weithio bryd hynny. Felly, bydd siarad Cymraeg yn eich paratoi ar gyfer gweithio yng Nghymru’r dyfodol, ac yn fuddsoddiad i’ch gyrfa.
Oherwydd y rhesymau hyn i gyd, hysbysebwch i ddarpar-gyflogwyr y ffaith eich bod yn siarad Cymraeg! Gwnewch hyn yn glir ar eich CV, a sicrhewch fod unrhyw cyfwelwyr yn gwybod am hyn, yn enwedig os oes gennych gymhwyster arbennig yn yr iaith. Os ydych chi’n ymuno â Darogan Talent fel aelod (am ddim!), nodwch eich bod yn siarad Cymraeg ar eich proffil personol, a gwnewch eich proffil yn ddwyieithog i'r graddau mae hynny'n bosib ar hyn o bryd. Bydd cyflogwyr sy’n edrych ar eich proffil yn adran aelodau ein gwefan, yn sicr o sylwi ar bethau fel hyn. Mae’r Gymraeg yn arf i’w ddefnyddio ym myd cystadleuol chwilio am swydd: ble mae nifer o ymgeiswyr da ar gyfer swyddi i raddedigion, efallai mai’r un ffaith ychwanegol yma amdanoch chi fydd yn gwneud y gwahaniaeth rhwng cael y swydd yr hoffech ei chael – neu beidio.
Cofiwch, fel unrhyw sgil, mae eich gafael ar y Gymraeg yn rhywbeth y gallwch ei meithrin a’i gwella. Os yw eich iaith ychydig yn ‘rhydlyd’, a chithau ddim yn hyderus i sôn am y Gymraeg fel sgil personol, ewch ati i ymarfer! Ewch i ddosbarth, darllenwch lyfr, edrychwch am gymorth ar-lein, ffeindiwch eraill i ymarfer siarad â nhw! Datblygwch eich sgiliau iaith, er mwyn datblygu eich doniau a’ch cymwysterau.
Wrth feddwl am eich gyrfa, ystyriwch eich iaith a’ch gwaith fel rhywbeth i fynd law yn llaw â’i gilydd. Mae’r Gymraeg yn gymhwyster ac yn sgil defnyddiol ar gyfer byd gwaith yng Nghymru, felly ewch ati i’w defnyddio.