Mae’r Gymraeg wedi bod yn bwysig i ni, Darogan Talent, o’r dechrau.
Sefydlwyd Darogan Talent gan ddau siaradwr Cymraeg iaith-gyntaf, a’r ddau ohonom wedi derbyn addysg gyfrwng Gymraeg. Ar ben hynny, daethom i gysylltiad â’n gilydd oherwydd yr iaith, trwy’r gymdeithas Gymraeg yn y brifysgol.
Yn wir, mae ein gweledigaeth i weld byd gwaith Cymru’n ffynnu yn deillio, yn rhannol, o’n hymdeimlad agos at Gymru oherwydd ein bod yn siarad Cymraeg, er inni fynd i’r brifysgol yn Lloegr. Wrth ddechrau’r fenter hon, dewison ni enw Cymraeg, Darogan, sy’n adlewyrchu pwysigrwydd yr iaith – a’i hanes – i ni.
Am fod byd gwaith yng Nghymru yn ddwyieithog, roeddem yn awyddus i’n henw adlewyrchu hynny (gwelwch yr adran ‘About us’ am arwyddocâd yr enw). Mae’n deg dweud, heb y Gymraeg, byddai Darogan Talent wedi bod yn wahanol iawn, os byddai’n bodoli o gwbl!
Mae’r Gymraeg yn dal yr un mor bwysig i ni a’n gwaith heddiw ag erioed, ac mae’n hymrwymiad i’r iaith yr un mor gryf. I’r graddau y bydd hynny’n bosibl, byddwn yn cyfathrebu’n ddwyieithog, ac yn y Gymraeg yn unig ar brydiau, fel yn achos yr erthygl hon.
Rydym yn gweithio’n ddyfal i gael y wefan hon yn ddwyieithog, ac mae hyn yn flaenoriaeth i ni. Os ydych yn cysylltu â Darogan Talent, rydym yn eich annog i wneud hynny trwy gyfrwng y Gymraeg os byddwch yn dymuno, ac fe fyddwn yn ymateb yn Gymraeg.
Er ein bod ni’n gallu sicrhau bod ein llais ni’n ddwyieithog, ac er ein bod am sicrhau statws uchel i’r iaith, fe fydd rhannau o’r wefan yn anochel yn uniaith Saesneg, oherwydd nad ydym am orfodi neb i ddefnyddio’r Gymraeg ar ein gwefan. O’r herwydd, mae’n debyg y bydd cyfran o’r cynnwys a welwch gan ein haelodau, neu gan sefydliadau sy’n defnyddio’r wefan, yn uniaith Saesneg. Wedi dweud hynny, pwysleisiwn ein bod yn frwd iawn dros weld y Gymraeg yn cael ei defnyddio’n helaeth ar y wefan hon.
Felly, rydym yn annog unrhyw rai sy’n ymuno â ni fel aelodau,ac sy’n gallu siarad Cymraeg, i wneud hynny’n glir ar eu proffil personol. Nodwch eich bod yn medru’r Gymraeg, a gwnewch eich proffil yn ddwyieithog i'r graddau mae hynny'n bosib ar hyn o bryd. Ac os ydych chi’n cysylltu â rhywun trwy ein rhwydwaith, a’u bod nhw hefyd wedi dweud eu bod yn siarad Cymraeg, byddai’n braf eich gweld yn cyfathrebu â’ch gilydd yn Gymraeg.
Gofynnwn ichi annog unrhyw rai rydych yn eu hadnabod sy’n gwneud gradd ar hyn o bryd neu sydd wedi graddio eisoes ac sy’n gallu siarad Cymraeg, i ymaelodi â ni. Helpwch ni i sicrhau bod cymaint o Gymraeg ag sy’n bosibl ar y wefan hon. Yn yr un ffordd, fe fyddwn yn annog cyflogwyr sy’n defnyddio’r wefan i ddefnyddio’r Gymraeg i’r graddau y bydd modd iddynt wneud.
Gyda’ch help chi, ein gobaith yw y bydd Darogan Talent yn adlewyrchu byd gwaith yng Nghymru, a hynny’n ddwyieithog.