Back to Jobs

Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol

£33,366 - £35,235
Gwynedd
Temporary

Pwrpas y Swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• -

Prif Ddyletswyddau.
Dyletswyddau Cyffredinol
• Ymarfer o fewn y fframweithiau deddfwriaethol a’r canllawiau perthnasol sy’n sail i ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru
• Gweithredu’r cod ymarfer proffesiynol
• Meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf a chynnal eich datblygiad proffesiynol eich hun.
• Cymryd rhan weithredol mewn goruchwyliaeth fyfyriol reolaidd gan weithiwr cymdeithasol cofrestredig neu therapydd galwedigaethol cofrestredig (yn dibynnu ar rôl a thasgau) a cheisio cyngor a chefnogaeth ar feysydd gwaith y tu hwnt i ffiniau gwaith disgwyliedig.
• Rheoli eich gwaith eich hun a bod yn atebol amdano a gweithio o fewn ffiniau'r rôl.
• Cydweithio â chydweithwyr amlddisgyblaethol dan arweiniad eich rheolwr llinell/gweithiwr cymdeithasol cofrestredig
• Paratoi a chyflwyno adroddiadau a chofnodion o dan oruchwyliaeth y rheolwr llinell/gweithiwr cymdeithasol cofrestredig gan sicrhau bod gwybodaeth yn gywir, yn gyson ac yn cael ei rhannu’n ddiogel ac yn briodol.
• Cefnogi a grymuso pobl i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau.
• Grymuso pobl i gael llais a’u cefnogi i gael mynediad at wasanaethau eirioli.
• Cydweithio â phobl sydd angen gofal a chymorth a gweithwyr proffesiynol eraill.
• Cynnal asesiadau ac ymarfer sy'n seiliedig ar gryfder mewn ffordd sy'n hyrwyddo hunan benderfyniad, annibyniaeth a grymuso dan oruchwyliaeth gweithiwr cymdeithasol cofrestredig.
• Cynnal asesiad sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau gan ddefnyddio sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’ i nodi beth sy’n bwysig i’r unigolyn, anghenion cymwys a datblygu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau sy’n hwyluso gofal a chymorth gydag arweiniad gan eich rheolwr llinell a chydweithwyr eraill mwy profiadol.
• Paratoi, cynhyrchu a gweithredu cynlluniau dan oruchwyliaeth gweithiwr cymdeithasol cofrestredig/therapydd galwedigaethol cofrestredig (yn dibynnu ar rôl a thasgau).
• Nodi Oedolyn neu Blentyn sy’n wynebu risg yn unol â deddfwriaeth berthnasol a Gweithdrefnau Diogelu Cymru ac adrodd yn briodol.
• Ymgymryd â'r cymhwyster lefel 4 perthnasol fel y nodir yn Fframwaith Cymwysterau GCC a rhaglenni lefel 3 a 4 eraill yn ôl y gofyn.

Dyletswyddau Lleol
• Bod yn weithiwr cyswllt neu/ac (g)weithiwr allweddol i nifer o blant yn dilyn trefn cyfeirio y gwasanaeth.
• Bod yn aelod o dîm gwaith cymdeithasol o fewn gwasanaeth aml-asiantaethol y Gwasanaethau Arbenigol Plant.
• Trefnu a darparu pecynnau gofal i gwrdd a’r anghenion a aseswyd mewn ymgynghoriad gyda’r plant, eu teuluoedd, a chydweithwyr.
• Cyflawni asesiadau risg perthnasol i’r uchod.
• Monitro ac adolygu cynlluniau gofal a ddarparwyd trwy drefn aml-asiantaethol.
• Bod yn rhan o drefn dyletswydd y tîm gwaith cymdeithasol
• Hybu cysylltiadau gyda darparwyr gwasanaeth a Mudiadau Gwirfoddol perthnasol.
• Cydweithio gyda grwpiau / fforymau rhieni
• Cydweithio gyda’r Tîm Amddiffyn Plant a’r Tîm Plant mewn Gofal mewn perthynas ag achosion amddiffyn plant a phlant sy’n derbyn llety.
• Cydweithio gyda thimau oedolion perthnasol o ran cynllunio ar gyfer oed trosglwyddo.
• Darparu gwybodaeth a chyngor i gydweithwyr fel bo’ n briodol.
• Cyfrannu at yr asesiad cychwynnol a cwblhau asesiadau efo teuluoedd newydd.
• Gweithio efo teuluoedd/plant newydd er mwyn paratoi at y Cyfarfod Cynlluniau Cyntaf
• Gweithio’n agos efo’r Swyddog Dyletswydd & Gofal Cwsmer

Dyletswyddau Eraill
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin


Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• -

Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel cyfrifoldeb.

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Teressa Margaret Williams ar teressamargaretwilliams@gwynedd.llyw.cymru

Cynnal cyfweliadau 09/12/2024

Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru

Cyngor Gwynedd
Apply nowApply nowShare
Welsh essential
Ready to apply for this opening?

Please let the organisation know that you found this position on this Job Board as a way to support us.

Apply nowApply now