Back to Jobs

Veterinary Prescribing Champions Technical Lead / Arweinydd Technegol Pencampwyr Presgripsiynu Milfeddygol

£39,075.11
Hybrid
Permanent 

Arwain DGC - background

The aim of this project which is funded through the Welsh Government, is to address antimicrobial resistance in animals and the environment.  The project is in line with the aims and objectives of the Welsh Governments Antimicrobial Resistance (AMR) in Animals and Environment Five Year Implementation Plan for Wales (2019-24).  The project will be delivered by the following parners – Mentera, WLBP (Welsh Lamb and Beef Producers), Aberystwyth University – Vet School, Bristol University, Iechyd Da and Milfeddygon Gogledd Cymru.  The project will be led and managed by Mentera.  The Veterinary Prescribing Champions Network has been leading on responsible antimicrobial use in Welsh veterinary practices since 2019 and is a core element of the Arwain DGC project. The VPC Network have developed a collaborative series of treatment and prescribing guidelines for key diseases of farm animals, along with a voluntary code of prescribing conduct for farm animal veterinary practices. These key outputs will be rolled out across Welsh farm and mixed veterinary practices over the next 18 months.

Aim of the Role

This role will lead on and manage the dissemination of these key outputs to VPCs and veterinary practices in Wales, ensuring practices engage with and implement the code of conduct and clinical guidelines in order to improve antimicrobial prescribing across Wales. The role will also manage the development of new supporting resources and ongoing refinements.  As part of the wider Arwain DGC team, the post holder will be expected to contribute to all aspects of the project, with a particular focus on coordinating the Veterinary Prescribing Champions Network and their work.

Follow this link to find out more about the role, and click 'apply now' to access the application form and further details.

Arwain DGC - cefndir

Nod y prosiect hwn, sy'n cael ei ariannu drwy Lywodraeth Cymru, yw mynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn anifeiliaid a'r amgylchedd.  Mae'r prosiect yn unol â nodau ac amcanion Ymwrthedd Gwrthficrobaidd mewn Anifeiliaid a’r Amgylchedd: Cynllun Gweithredu Pum Mlynedd i Gymru 2019-2024.  Bydd y prosiect yn cael ei gynnal gan y partneriaid canlynol — Mentera, WLBP (Cynhyrchwyr Cig Oen ac Eidion Cymru), Prifysgol Aberystwyth — Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth, Prifysgol Bryste, Iechyd Da a Milfeddygon Gogledd Cymru.  Bydd y prosiect yn cael ei arwain a'i reoli gan Mentera.  Mae’r Rhwydwaith Pencampwyr Presgripsiynu Milfeddygol wedi bod yn arwain ar ddefnydd gwrthficrobaidd cyfrifol mewn practisau milfeddygol yng Nghymru ers 2019 ac mae’n elfen graidd o brosiect Arwain DGC. Mae’r Rhwydwaith Pencampwyr Presgripsiynu Milfeddygol wedi datblygu cyfres gydweithredol o ganllawiau triniaeth a phresgripsiynu ar gyfer prif glefydau anifeiliaid fferm, ynghyd â chod ymddygiad presgripsiynu gwirfoddol ar gyfer practisau milfeddygol anifeiliaid fferm. Bydd yr allbynnau allweddol hyn yn cael eu cyflwyno ar draws practisau fferm a milfeddygaeth gymysg yng Nghymru dros y 18 mis nesaf.

Nod y Rôl  

Bydd y rôl hon yn arwain ac yn rheoli’r gwaith o ddosbarthu’r allbynnau allweddol hyn i Bencampwyr Presgripsiynu Milfeddygol a phractisau milfeddygol yng Nghymru, gan sicrhau bod practisau’n ymgysylltu â’r cod ymddygiad a’r canllawiau clinigol ac yn eu rhoi ar waith er mwyn gwella presgripsiynu gwrthficrobaidd ledled Cymru. Bydd y rôl hefyd yn rheoli datblygiad adnoddau cefnogi newydd a mireinio parhaus.  Fel rhan o dîm ehangach Arwain DGC, bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gyfrannu at bob agwedd ar y prosiect, gan ganolbwyntio’n benodol ar gydlynu’r Rhwydwaith Pencampwyr Presgripsiynu Milfeddygol a’u gwaith.

Dilynwch y ddolen hon i ddarganfod mwy am y rôl, a chliciwch ar 'apply now' i gael mynediad i'r ffurflen gais a manylion pellach.

Mentera
Apply nowApply nowShare
Welsh essential
Ready to apply for this opening?

Please let the organisation know that you found this position on this Job Board as a way to support us.

Apply nowApply now