•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Bwriad y Gwasanaethau Integredig Oedolion yw:-
“fy ngalluogi i fyw fy mywyd fel rwyf yn ei ddymuno”
•I roi arweiniad gweithredol o ran diogelu oedolion ar draws grŵp gweithlu sy’n gyflogedig gan Gyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i sicrhau fod pobl yr ardal yn cael mynediad i’r person cywir ar yr amser cywir a derbyn y gefnogaeth gywir i’w galluogi i barhau i fyw eu bywydau eu hunain.
•Cefnogi’r Arweinydd Ardal I reoli’r drefn diogelu.
•Darparu arbenigedd yn y maes diogelu oedolion a gweithredu mewn rol ymgynghorol ar gyfer y gwasanaeth yn Sirol.
•STAFF - cyfrifoldeb goruchwylio a chefnogaeth dydd i ddydd ar achosion Diogelu sy’n cael eu cyfeirio I’r Gwasanaeth Oedolion.
CYFRIFOLDEBAU RHEOLI
•Cyfrifoldeb am ddatblygu’r ‘hwb’ Diogelu I dderbyn pob ymholiad diogelu’r Adran Oedolion. Penderfynu a chytuno ar sut I reoli’r ymholiadau/ cyfeiriadau er mwyn sicrhau bod trigolion yn ddiogel.
•Perfformiad a Datblygiad – Canolbwyntio ar wella perfformiad trwy reoli a datblygu effeithiol a thrwy fesur, monitro ac arfarnu perfformiad.
•Datrys problemau – Gwneud i bethau ddigwydd trwy wneud penderfyniadau ystyrlon ac ymateb yn effeithiol i flaenoriaethau fel maent yn newid.
•Cyfathrebu – Rhannu a gwrando ar wybodaeth, barn a syniadau heb ragdybiaeth trwy ddefnyddio dulliau cyfathrebu priodol. Cynyddu cymhelliant trwy ddefnyddio cyfathrebu cynhwysol sy’n cydnabod teimladau eraill.
•Ymwybyddiaeth o’r cyd-destun – Deall a gweithio’n effeithiol o fewn fframwaith politicaidd y Cyngor a bod yn ymwybodol o’r materion sy’n cael effaith ar ddarparu gwasanaeth ar wahanol lefelau. Meithrin cysylltiadau gydag eraill i elwa o ymarfer gorau er mwyn gwella darpariaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth.
•Hunanreoli – Dangos esiampl i eraill trwy fod yn rhagweithiol, gonest a sefydlog a chymryd cyfrifoldeb am eich gweithredoedd eich hun. Sicrhau cydymffurfiaeth â safonau proffesiynol. Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
CYFRIFOLDEBAU PENODOL
•Derbyn a delio â ymholiadau/ cyfeiriadau Diogelu o fewn yr Adran Oedolion.
•Gweithio gyda dinasyddion sydd angen cefnogaeth i’w galluogi i gwrdd ag amcanion sydd yn bwysig iddynt.
•Gweithredu yn unol â gofynion Deddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant 2014 a deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol eraill.
•Annog gweithredu modelau ataliol er mwyn lleihau dibyniaeth ar wasanaethau.
•Adrodd ar rwystrau nad ydyw’r tîm yn gallu eu goresgyn i’r Uwch Reolwr.
•Cymeryd rôl arweiniol ar gyfer ymholiadau/ cyfeiriadau Diogelu’r Adran.
•I fod yn berson proffesiynol allweddol ar gyfer yr Uned Diogelu, gan roi cefnogaeth ac arweiniad broffesiynol yn ol yr angen.
•Darparu cefnogaeth a chyngor a fydd yn hysbysu ymarfer da a galluogi perthynas waith effeithiol.
•Annog datblygiad gweithlu ac annog cefnogi myfyrwyr ar leoliad.
•Yn hyderus i wneud penderfyniadau a chefnogi staff I wneud penderfyniadau am sut I reoli ymholiadau/ cyfeiriadau.
•Cefnogi’r Cyd-lynydd Diogelu a’r Uwch Reolwr i ddelio ac ymholiadau ac ymchwilio a chwblhau adroddiadau i ymateb i gwynion.
•Sicrhau fod cyfrifoldebau cyfreithiol a pholisïau adrannol yn cael eu cwrdd mewn perthynas â gwaith Diogelu.
•Sicrhau fod anghenion unigolion yn cael eu cyfarch yn unol â threfniadau Diogelu y Cyngor a chyfrifoldebau statudol.
•Gweithredu fel arweinydd dynodedig ar rhai achosion diogelu. Cwblhau ymchwiliadau i honiadau o gamdriniaeth.
•Annog a hwyluso trafodaethau aml ddisgyblaethol rheolaidd i ddod o hyd i ffyrdd creadigol i gyflawni amcanion a diogelu’r dinesydd heb gyfyngu yr ymyrraeth i baru pobl a gwasanaethau traddodiadol a chreu dibyniaeth ar wasanaethau.
•Dosbarthu gwaith I’r ardaloedd/ gwasanaethau addas.
•Ymateb I ymholiadau yn amserol.
•Cydweithio hefo partneriaid er mwyn gwneud ymholiadau a Diogelu dinasyddion.
•Cydweithio a chreu cysylltiadau cryf ag adrannau eraill o’r Cyngor a phartneriaid eraill sydd â chyfraniad i’w wneud i sicrhau fod dinasyddion yn cyrraedd amcanion llesiant.
•Cyfrannu i gyflawni amcanion llesiant y Cyngor gan ddarparu gwybodaeth a mapio darpariaeth sy’n cyfrannu at gyflawni anghenion gofal y dinesydd.
•Cyfrannu at ac arwain ar dimau prosiect yn lleol a sirol
•Cyfrannu i ddatblygu a chefnogi cynllun gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chynhorthwy ar gyfer yr ardal ac yn sirol.
•Cynrychioli’r adran mewn cyfarfodydd lleol, sirol a rhanbarthol.
•Cyfrannu i’r asesiad anghenion poblogaeth.
•31. Datblygu arbenigedd mewn Diogelu Oedolion a gweithredu fel arbenigwr i roi cyngor ac arweiniad penodol i’r gwasanaeth.
•Dirprwyo ar ran yr Uwch Reolwr.
CYFRIFOLDEBAU ERAILL
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
•Gweithio oriau anghymdeithasol yn ôl yr angen.
•Mae ystyriaeth yn cael ei roi i ymestyn oriau agor y gwasanaeth yn ystod yr wythnos ynghyd â gweithio penwythnosau.
•Bydd disgwyliad i ddeilydd y swydd fod yn rhan o unrhyw drefniadau a gaiff ei sefydlu ar sail rota.