Back to Jobs

Cyfrifydd Grwp

£40,476 - £42,708
Caernarfon
Permanent 

Teitl swydd: Cyfrifydd Grwp

Adran: Cyllid

Gwasanaeth: Uned Reoli

Dyddiad cau: 09/01/2025 10:00

Math Swydd/Oriau: Parhaol | 37 Awr

Cyflog: £40,476 - £42,708 y flwyddyn

Gradd tâl: PS2

Lleoliad(au): Caernarfon

Manylion

Hysbyseb Swydd

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth  cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Ffion Madog Evans ar 01286 679133

Rhagwelir cynnal cyfweliadau  

Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076

E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru

DYDDIAD CAU:  09/01/2025

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn  yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais.  Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio  eich  E-BOST yn rheolaidd.

Pwrpas y swydd

•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.

•Arwain tîm sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaeth cyllid a chyfrifeg i Adran o’r Cyngor yn y modd mwyaf effeithlon ac effeithiol a chyfrannu at alluogi’r Adran i gyflawni ei nod a’i amcanion.

Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer

•Rheoli un Cymhorthydd Cyfrifeg o ddydd i ddydd a chyfrifoldeb cyffredinol am yr offer a ddefnyddir o fewn maes y swydd.

Prif ddyletswyddau

•Disgwylir i’r deilydd arwain y Tîm sydd yn darparu gwasanaeth cefnogol cyfrifeg ariannol a chyfrifeg rheolaethol i Adran o’r Cyngor fel a ganlyn :

•Sicrhau y cyflawnir y targedau a osodir gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol a chymryd camau i gywiro unrhyw lithriad neu ostyngiad mewn ansawdd.

•Gweithredu fel rheolwr llinell i’r staff cyllid sy’n gweithredu ynglyn â chyllidebau’r Adran berthnasol ac annog y staff i weithio i’w llawn botensial, gan fesur perfformiad yn erbyn targedau.

•Sicrhau fod gofynion y Pennaeth Adran a’r rheolwyr yn cael eu cyflawni yn unol âg unrhyw ofynion â osodir mewn cytundeb lefel gwasanaeth.

•Cyflawni gwaith ar gyllidebau a chyfrifon yr Adran berthnasol, sy’n cydymffurfio gyda safonau proffesiynol priodol, gyda chyfarwyddiadau’r Pennaeth Cyllid Cynorthwyol neu’r Pennaeth Cyllid ac yn unol ag unrhyw bolisïau corfforaethol perthnasol.

•Paratoi cyllidebau a chyfrifon terfynol yr Adran dan sylw, yn unol â chanllawiau a osodir gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol neu’r Pennaeth Cyllid.

•Cyflawni swyddogaethau cyllidebol sy’n arbennig i feysydd yr Adran dan sylw, yn unol â’r gofynion statudol perthnasol, a chymryd cyfrifoldeb personol am gyllidebau cymhleth lle mae angen mewnbwn lefel uchel.

•Monitro cyllidebau refeniw a chyfalaf yr Adran dan syw gan baratoi adroddiadau fel bo’n berthnasol ar gyfer y Pennaeth Adran a’r rheolwyr, y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol a/neu’r Pennaeth Cyllid.

•Sefydlu ac adolygu systemau casglu gwybodaeth ariannol, gan ymgynghori gyda’r Pennaeth Adran a’r rheolwyr lle bo’r angen er mwyn sicrhau y gellir ymarfer rheolaeth gyllidol gadarn.

•Sicrhau fod ceisiadau grant cywir yn cael eu cyflwyno ar amser i gyrff allanol a bod trefniadau monitro grantiau priodol yn bodoli.

•Cynorthwyo’r Pennaeth Cyllid Cynorthwyol i ystyried unrhyw ddatblygiadau cyfrifyddol ym maes y gwasanaethau dan sylw, a chynorthwyo i ddatblygu trefniadau i gydymffurfio â hwynt drwy gadw’n ymwybodol o ddatblygiadau perthnasol.

•Mynychu cyfarfodydd, pwyllgorau, gweithgorau neu paneli perthnasol yn ôl gofynion y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol a chwarae rhan flaenllaw wrth ddatblygu strategaeth ariannol yr Adran dan sylw.

•Darparu cyngor, gwybodaeth neu adroddiadau ariannol i’r Pennaeth Adran a’r rheolwyr fel bo’r angen.

•Darparu ac adolygu ystadegau y gwasanaethau perthnasol yn unol â gofynion statudol a safonau cyfrifeg cydnabyddiedig.

•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.

•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.

•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin

Amgylchiadau arbennig

•Yr angen i weithio tu allan i oriau gwaith arferol yn achlysurol.

Cyngor Gwynedd
Apply nowApply nowShare
Welsh essential
Ready to apply for this opening?

Please let the organisation know that you found this position on this Job Board as a way to support us.

Apply nowApply now